Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editor: Podcast
  • Duración: 92:13:17
  • Mas informaciones

Informações:

Sinopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodios

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

    20/12/2022 Duración: 13min

    Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was establishedSylfaenydd FounderDarlledwr BroadcasterFy annwyl wraig My dear wifeCadeirio ChairingFfodus LwcusCymysgu’r sain Mixing the soundRo’n i’n methu’n deg I couldn’t at allAelod selog A faithful memberAmbell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hiDylanwadu To influenceTyfu lan Tyfu fynyTad-cu TaidEmynau HymnsTraddodiadol TraditionalYn grac Yn flinCyfweliad InterviewSwnllyd NoisySwynol BeautifullyFfili Methu Bore Cothi -

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

    13/12/2022 Duración: 12min

    Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts outPoblogaidd PopularAmrywiaeth VarietySioeau cerdd Musicals(Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant ArrangementCydio To graspCroen gwŷdd GoosebumpsDisglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenlyCaryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni NaughtinessCorachod ElvesWedi gwirioni’n lân Infatuated withPeth diweddar A recent thingBeti A'i Phobol – Sh

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022

    06/12/2022 Duración: 13min

    Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter FairMilfeddygon VetsDarlledu BroadcastingHamddenol LeisurelyArchwilio To inspectAnhygoel IncredibleY cylch The ringBeirniad JudgeRhesymu’n gyhoeddus Outlining the reasons publiclyArddangoswyr ExhibitionersBeti a’I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi.Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o’r sgwrs ble mae hi’n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i’r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn’t inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astrayEnnill fy

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022

    29/11/2022 Duración: 13min

    Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musicianCerddorfa OrchestraSioe gerdd Musical theatreDwlu ar Wrth ei fodd efoLlwyfan StageAnghyffredin UnusualProfiadau ExperiencesTrwy rinwedd By virtue of Beti a’i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna’n sôn am rai o’i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a’i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e’n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe’n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â’r ynys...Parchedig ReverendGweinidog Minister Yn y fyddin In the armyHel pres Casglu arianLlongau ShipsYmerodraeth EmpireFfrindi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022

    22/11/2022 Duración: 16min

    Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn BeesCwch HivePara To lastPeillio To pollinateHanfodol EssentialDiwydiant IndustryCnwd CropTrystan ac Emma – Gari’r GwiningenY gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i’r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma’n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall…Cwningen RabbitAballu And so onDychmygu To imagineYmateb ResponseAled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi’n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, d

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022

    15/11/2022 Duración: 18min

    S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt BeyondWedi hen arfer Well used toBodoli ers degawdau Existed for decadesRhyfedda StrangestPwysleisio’r angen Stresses the importanceAil-greu To recreateErs tro For a long timeYsbrydoli To inspire Yr alwad The callLlorio To floorBore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Co

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 8fed 2022

    08/11/2022 Duración: 15min

    BETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDDY cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o’r herwydd…Hiliaeth Racism O’r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To existSHELLEY A RHYDIAN Mirain Iwerydd oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022

    01/11/2022 Duración: 17min

    BORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - ThicknessBETI A’I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae’n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu’n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol -

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

    25/10/2022 Duración: 15min

    BETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerseALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu’r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda’r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - TaidALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o’r Quran. Dyma flas ar y

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Hydref 2022

    21/10/2022 Duración: 15min

    BETI A’I PHOBOL Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o’r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw… Cyflwyniad - Introduction Galar - Bereavement Gwlad Pŵyl - Poland Gofal dwys - Intensive care Go lew - Ddim yn ddrwg Meddygon - Doctors Canmol - To praise Amodau - Conditions Sioc enbyd - Devastating shock Anghredinedd - DisbeliefALED HUGHES Maggie Ogunbanwo o Benygroes ger Caernarfon fuodd yn siarad efo Aled Hughes fore Mercher, ar ôl iddi hi ennill Gwobr Mentergarwch yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022... Gwobr Mentergarwch - Entrepreneur Award Ysbrydoli - To inspire Rhan fwyaf - Mainly Pres - Arian Goro - GorfodIFAN EVANS Mae Alun Rees, yn dod o Sir Gaerfyrddin, neu Sir Gar, yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw yn Nashville, America ac yn gweithio efo’r rhaglen deledu “American Pickers”. Mae e’n teithio ar draws y wlad gyda’i waith – o Nashville i Ka

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022

    11/10/2022 Duración: 15min

    TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challenge Profiadol - Experienced Sbïad - Edrych Camgymeriad - Mistake Profiad - ExperienceGWNEUD BYWYD YN HAWS Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen… Symbylydd - Stimulant Ymennydd - Brain Egni - Energy Yn fwy effro - More awake Cyffur - Drug Yn benodol - Specifically Rheswm meddygol - Medical reason Esgyrn - Bones Yn gymedrol - Moderately ALED HUGHES Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert,

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Hydref 2022

    04/10/2022 Duración: 14min

    BETI A’I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd...  Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi’n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw’n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni’n sôn am gadw’n heini – mi gewch chi’r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau’r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a’r saithdegau ac mae’n debyg mae Nights in White Satin oedd un o’u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau’r band, Ray Thomas,

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

    27/09/2022 Duración: 14min

    Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dodAled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarcho

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fedi 2022

    21/09/2022 Duración: 13min

    Dros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - SkinBore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion? Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy Darnau - Pieces Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers Unig - Lonely Cyfansoddi - To compose Sefyllfa gyhoeddus - A public settingAled Hughes Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter. Arlwyo - Catering Crancod - Crabs Cwta - A meagre Gweledigaeth - Vision Lleihau - To reduce Cynnyrch - Produce

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

    16/09/2022 Duración: 12min

    Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - FuneralBeti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy’n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o’r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - MerchedGwneud Bywyd yn Haws Roedd hi’n

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022

    16/09/2022 Duración: 15min

    Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artistBwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb…Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - CrisisCymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Ngh

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022

    30/08/2022 Duración: 14min

    Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus ScornfulBore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

    23/08/2022 Duración: 13min

    Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr Collect

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022

    16/08/2022 Duración: 13min

    Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exilesDianc To escapeYn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiouslyCyfarfu Gwladys a William Gwladys and William metYr aelwyd The homePrinder tai affwysol Severe housing shortagePrin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawnAwyddus EagerCyfoedion PeersAled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan’na ar Stiwdio. Dach

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

    02/08/2022 Duración: 13min

    Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp SportBant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwblCroesawu To welcomeMeddylfryd MindsetRhannu profiadau To share experiencesDros Frecwast – Gemau'r GymanwladGwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau’r Gymanwlad Commonwealth GamesCarfan SquadUn fodfedd dros bum troedfedd Five foot oneDwywaith ei maint Twice her sizePencampwraig Champion (female)O ddifri SeriouslyRhyngwladol InternationalTorfeydd CrowdsAil wynt Second windDros F

página 5 de 18