Pigion: Highlights For Welsh Learners

Informações:

Sinopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodios

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

    27/03/2023 Duración: 14min

    Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad Beirniaid Judges Cyfres Series Credwch e neu beidio Believe it or not Cyfrinach Secret Cyfansoddi To compose Angladd Funeral Hysbys(eb) Advert Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds Dere lan Tyrd i fyny Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd Pigion Dysgwyr – Beti George Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn w

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

    21/03/2023 Duración: 16min

    Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On’d yw hi’n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences An

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Fawrth 2023

    14/03/2023 Duración: 14min

    Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Dyn ni i gyd wedi clywed, mae’n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda’r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe’n sôn yn gynta’ am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu. Prinder Scarcity Tueddol o To tend to Yn glou Quick Aeddfedu To ripen Tŷ gwydr Greenhouse Anferth Huge Hadau Seeds Chwynnu To weed Olew olewydd Olive oil Maethlon Nutritious Pigion Dysgwyr - Pat Morgan Ffwrdd a ni i’r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o’r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono…… Chwedlonol Legendary Atgofion Memories Wedi dwlu Wedi gwirioni Wastad Always Sbort Fun Pigion Dysgwyr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fawrth 2023

    07/03/2023 Duración: 14min

    Pigion Dysgwyr – Handel Cyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel… Cyfansoddwr Composer Parchus Respectable Cyfreithiwr Lawyer Offerynnau Instruments Colli ei dymer Losing his temper Cwato To hide Dianc To escape Deifiol Crafty Iachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation) Wrth reddf Instinctive Pigion Dysgwyr – Coffi Y cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna’n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a’r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn. Diben Purpose Diwydiant a diwylliant Industry and culture Deniadol Attractive Arogl Smell Cymdeithasol Social Hel atgofion Remini

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

    28/02/2023 Duración: 13min

    Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we Uwch seiclo To upcycle Gwinio To sew Cyfnither Female cousin Gwehyddu Weaving Yn llonydd Still Addasu To adapt Awch Eagerness Esblygu To evolve Didoli To sort Buddsoddi To invest Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo Heledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug . Disgybl Pu

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Chwefror 2023

    21/02/2023 Duración: 13min

    Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2 Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad…… Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate Museum Dathlu arferion Celebrating the custom Diwrnod penodol A specific day Plantos Kids Cyflwyno Presented Cymhleth Complicated Rhoi benthyg To lend Teimlo trueni To pity Bwrdd sgwrio Scrubbing board Chwarelwyr Quarrymen Pigion Dysgwyr - Jo Heyde Plant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreu

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023

    15/02/2023 Duración: 14min

    Pigion Dysgwyr – Dion Mae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia? Yn ddiweddar Recently Pigion Dysgwyr - Meinir Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn. Menywod Merched Arnofio To float Tonnau Waves Plentyndod Childhood Golwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…? Gwefreiddiol Thrilling Morlo Seal Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2 Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 a

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023

    07/02/2023 Duración: 15min

    Pigion Dysgwyr – Shan Jones Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr? Ffeind Caredig Cymwynasgar Obliging Am oes For life Ystyried To consider Goro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dim Anhygoel Incredible Rhannu’r baich Sharing the load Pwysau Pressure Clod Praise Pigion Dysgwyr – Gareth John Bale Shan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 31ain 2023

    31/01/2023 Duración: 15min

    Pigion Dysgwyr – Angharad a Elizabeth Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby yn Swydd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ddwy am eu profiadau o ddysgu Cymraeg. Dyma beth oedd gan Angharad i’w ddweud yn gynta. Cymwysterau Cymru Qualifications Wales Annog ein gilydd Encouraging each other Y cyfnod clo The lockdown Rhyfeddol Astonishing Cyd-destun Context Cydbwysedd Balance Cyfleoedd Opportunities Awyrgylch Atmosphere Pigion y Dysgwyr – Beti 29.1 Syniad diddorol on’d ife – creu ystafelloedd siarad Cymraeg er mwyn dod i arfer â sgwrsio yn yr iaith. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd Rhian Boyle, awdur y ddrama radio Lush. Dyma Rhian yn esbonio wrth Beti ychydig am ei dyddiau ysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae gen i gywilydd I’m ashamed Amddiffyn To defend Ysgaru To divorce TGAU GCSE Hunangofiant Autobiography Trais Vi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023

    24/01/2023 Duración: 15min

    Pigion Dysgwyr – Chris Summers Mae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay. Hynafol Ancient Lasai fo Basai fe wedi gallu Poblogaidd Popular Coelio Credu Parch Respect Cyflwyno To introduce Sbio Edrych Smalio Esgus Padell ffrio Ffrimpan Pigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1 Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys... Ryseitiau Recipes Sy’n cynnwys Which include Sawrus Savoury Tanllyd Fiery Pobi To bake Ymchwil Research Penodol Specific Buddion iechyd Health benefits Meddyginiaethau Medicines Afiec

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023

    17/01/2023 Duración: 11min

    Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1 Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath... Cyn gapten Former captain Yn falch Proud Difaru To regret Braint An honour Ymfalchïo To be proud of oneself Cyfrifoldeb Responsibility Gormod o bwysau Too much pressure Mynnu To insist Cyfarwyddiadau Instructions Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher. Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) Innumerable Annisgwyl Unexpected Ystyried To consider Syllu To stare Llusgo To drag Pencampwriaeth Championship Ysbrydoliaeth Inspiration Aruthrol Huge Breuddwydiol, euraidd Dreamy, gol

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023

    10/01/2023 Duración: 14min

    Aled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd Reviewer Sefydlwyd Was established Canrif A century Creu To create Anferth Huge Brodyr Brothers Y dechreuad The beginning Datblygu To develop Parhau Continuing Bodoli To exist Beti a’I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain Y Gadeirlan The Cathedral Portreadu To portray Dywediadau Sayings Llwyfan Stage Ganwyd Was born Bri Popular Credwch neu beidio Believe it or not Syfrdan Astounded Dychmygol Imaginary Pigion Dy

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 6ed 2023

    05/01/2023 Duración: 14min

    Bore Cothi – Iau – 29/12/22 Heledd Cynwal oedd yn cyflwyno Bore Cothi yn lle Shan Cothi wythnos diwetha a buodd hi’n gofyn i sawl person sut flwyddyn oedd 2022 wedi bod iddyn nhw. Roedd yr awdures Caryl Lewis wedi cael blwyddyn cynhyrchiol iawn, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Cynhyrchiol Productive Ymhelaethwch! Say more! Llwybr Path Anarferol Unusual Datblygu To develop Mynd ati To go about it Yn fy nhwpdra In my stupidity Tueddu Tend to Naill ai...neu Either...or Cynrychioli To represent Dros Ginio – Iau 29/12/22 Yr awdures Caryl Lewis yn sôn am ei blwyddyn brysur ac anarferol. Rhaglen arall fuodd yn edrych yn ôl ar 2022 oedd Dros Ginio a chlywon ni rai o’r sgyrsiau diddorol gafwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma flas ar sgwrs rhwng Alun Thomas a’r Dr Elain Price sydd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnodd Alun iddi hi beth oedd ei hoff ffilm... Darlithydd Lecturer Astudiaethau Cyfr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022

    30/12/2022 Duración: 13min

    Troi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12 Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth Teulu Arferiad A custom Celyn Holly Addurno To decorate Dim byd neilltuol Nothing particularly Melysion Sweets Cyngerdd cystadleuol A competitive concert Adloniant Entertainment Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau Geese Nefoedd Heaven Plentyndod Childhood Prysurdeb Business Pluo To pluck Cynnau tân To light a fire Llyg

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

    20/12/2022 Duración: 13min

    Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was established Sylfaenydd Founder Darlledwr Broadcaster Fy annwyl wraig My dear wife Cadeirio Chairing Ffodus Lwcus Cymysgu’r sain Mixing the sound Ro’n i’n methu’n deg I couldn’t at all Aelod selog A faithful member Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi Dylanwadu To influence Tyfu lan Tyfu fyny Tad-cu Taid Emynau Hymns Traddodiadol Traditional Yn grac Yn flin Cyfweliad Interview Swnllyd Noisy Swynol Beautifully

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

    13/12/2022 Duración: 12min

    Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts out Poblogaidd Popular Amrywiaeth Variety Sioeau cerdd Musicals (Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant Arrangement Cydio To grasp Croen gwŷdd Goosebumps Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly Caryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni Naughtiness Corachod Elves Wedi gwirioni’n lân Infatuated with Peth diweddar A rece

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022

    06/12/2022 Duración: 13min

    Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhygoel Incredible Y cylch The ring Beirniad Judge Rhesymu’n gyhoeddus Outlining the reasons publicly Arddangoswyr Exhibitioners Beti a’I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi. Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o’r sgwrs ble mae hi’n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i’r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn’t inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022

    29/11/2022 Duración: 13min

    Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a’i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna’n sôn am rai o’i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a’i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e’n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe’n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â’r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Yme

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022

    22/11/2022 Duración: 16min

    Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11 Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn Bees Cwch Hive Para To last Peillio To pollinate Hanfodol Essential Diwydiant Industry Cnwd Crop Trystan ac Emma – Gari’r Gwiningen Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i’r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma’n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall… Cwningen Rabbit Aballu And so on Dychmygu To imagine Ymateb Response Aled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11 Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi’n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Y

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022

    15/11/2022 Duración: 18min

    S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio’r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llu

página 4 de 18