Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editor: Podcast
- Duración: 0:11:28
- Mas informaciones
Informações:
Sinopsis
Pigion Dysgwyr – Deborah Morgante Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid….. Gwres tanbaid Intense heat Môr y Canoldir Mediterranean Sea Rhufain Rome Mewn gwirionedd In reality Rhybuddio To warn Oriau mân y bore The early hours Mas Allan Dioddef To suffer Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Mi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith…… Ynys Manaw