Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Informações:

Sinopsis

Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae’n ddilys It’s valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag A