Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

Informações:

Sinopsis

Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith... Bant I ffwrdd Cledrau Rails (of railway) Pasg Easter Galluogi To enable Yn ddi-dor Uninterrupted Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafán Yn ddiweddar Recently Brwd Enthusiastic Cerddor Musician Hafan o heddwch A peaceful haven Adlen Awning Troedfedd A foot (measurement) Pigion Dysgwyr – Carno Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd.