Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

Informações:

Sinopsis

Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad -