Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023

Informações:

Sinopsis

Pigion Dysgwyr – Dion Mae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia? Yn ddiweddar Recently Pigion Dysgwyr - Meinir Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn. Menywod Merched Arnofio To float Tonnau Waves Plentyndod Childhood Golwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…? Gwefreiddiol Thrilling Morlo Seal Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2 Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 a