Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Chwefror 2023

Informações:

Sinopsis

Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2 Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad…… Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate Museum Dathlu arferion Celebrating the custom Diwrnod penodol A specific day Plantos Kids Cyflwyno Presented Cymhleth Complicated Rhoi benthyg To lend Teimlo trueni To pity Bwrdd sgwrio Scrubbing board Chwarelwyr Quarrymen Pigion Dysgwyr - Jo Heyde Plant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreu