Sinopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodios
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 15fed 2022
15/03/2022 Duración: 14minGeraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau.Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 8fed 2022
08/03/2022 Duración: 21minBore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol.Bore Sul Non Evans Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau! Delfrydol - Ideal Cyn chwaraewr - Former player Magwraeth - Upbringing Lan - Fyny Dodi - Rhoi Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd Codi pwysau - Weightlifting Ffurflen gais -
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022
01/03/2022 Duración: 17minShan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special qualityGeraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr!Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022
22/02/2022 Duración: 15minMali Ann Rees Bore Sul Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi. Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnagDa clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores. Troi'r Tir Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir... Cymuned - Community Cyfer - Acre Gwenith - Wheat Gwirfoddolwyr - Volunteers Gwartheg - Cattle Hwch - Sow Gwair - Hay Syndod - A surp
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022
15/02/2022 Duración: 15minBore Cothi ac Aled Jones Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral TourCYMRU CARWYN Evan James Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg! Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael ha
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 8fed 2022
08/02/2022 Duración: 15min1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth... Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan cenedlaethol - National stage Senedd ieuenctid - Youth parliament Rhydychen - Oxford Cyfweliadau - Interviews Darlledu - Broadcasting San Steffan - Westminster2. Iwan Griffiths a Delme ThomasMae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sôn am gael ei ddewis i chwarae dros y
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022
04/02/2022 Duración: 16min1. Beti a'i Phobol a Rebecca RobertsBuodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go2. Cymru Carwyn Iau efo Max BoyceRebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022
28/01/2022 Duración: 17min1. Aled Hughes a Melanie Owen Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addasu To adapt2. Bore Cothi - Muhammad AliMelanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed. Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel.. Syllu Staring Tawelwch Silence
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022
21/01/2022 Duración: 14min1) Aled Hughes - David Bowie Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe...Y fenga Yr ifancaCynhyrchu To produceYmchwilio To researchLlewygu To faintGofod SpaceDychmygu To imagineYr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust2) Cofio - Ymarfer CorffFfion Jones oedd honna'n sôn am ei hobsesiwn gyda David Bowie.Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed Datgelu To revealAndros o ifanc Ifanc iawn Yn y man Mewn munudDdaru o Gwnaeth e 3) Bore Cothi - Y GylfinirEnillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r R
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022
14/01/2022 Duración: 17min1) Cofio 02/01/22Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd...Y flwyddyn flaenorol The previous yearAil-ddarlledu To rebroadcastAtgofion MemoriesDdaru WnaethGweithwyr cyffredin Ordinary workersEnwogion CelebritiesDigri DoniolTynnu gwynebau Pulling faces2) Rhaglen Beti a’i Phobol - 09/01/22...a chafodd y clip yna ei recordio’n wreiddiol yn 1982. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Senedd Cymru. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ. Elusen iechyd meddwl yng Nghymru ydy DPJ sydd yn helpu’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig ac mewn amaethyddiaeth. Dy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 7fed 2022
07/01/2022 Duración: 14minIfan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan… Enwebu To nominateTlws TrophyCyfleus ConvenientCymorth HelpAr flaenau fy nhraed On my toesAstrus AnoddYn barhaol ConstantlyBeti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer HughesTony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i’w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans.Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e’n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti.Anarferol UnusualPennaeth derwyddon Chief of the druidsChwedlau FablesSbïwch EdrychwchDistawu To silenceUrdd OrderDefodau
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021
31/12/2021 Duración: 16min01. Aled Hughes – Elfyn JonesDoes dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled HughesYn union ExactlyGorchuddio To coverAnhygoel IncredibleDenu To attractCeudyllau PotholesTwyllodrus DeceptiveAmgylchiadau CircumstancesDyffrynnoedd ValleysYn wirioneddol ReallyOffer Equipment02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry JonesCyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi fa
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021
24/12/2021 Duración: 16min01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn LliwDillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’… Hyfforddwr delwedd Image coachCynllunio To planCanolbwyntio To concentratePwysigrwydd ImportanceArna chdi Arnot tiCymryd sylw To pay attentionYsbryd SpiritDos CerYr union liw The exact colourPenodol SpecificDrych MirrorCoelio Credu02. Beti a'i Phobol – Mei JonesI glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad. Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021
17/12/2021 Duración: 12min1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between themYr un cylchoedd The same circlesDyn diethr A strangerCadw pellter Keeping a distanceYn achlysurol Occasionally Dotio ar Dwlu arRhyfedda StrangestLlywydd y Blaid President of Plaid CymruGweini To serveWedi drysu Confused2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan’na yn dweud nad oedd e a’i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet’. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a’r ffilm ‘West Sid
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021
10/12/2021 Duración: 17min01. Beti – Laura KaradogClip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno….San Steffan WestminsterGradd mewn gwleidyddiaeth A politics degreeBreintiedig PrivilegedYn rheolaidd RegularlyErchyll AwfulHurt StupidDinistrio bywydau Destroying livesDiniwed InnocentGrym PowerTu hwnt BeyondHeb os Without doubt02. Bore Cothi – Rhona DuncanYchydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi’n poeni fyddan nhw’n para dros y gaeaf? Os felly dylai’r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy’n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd,
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021
03/12/2021 Duración: 16min01. GBYH - Leisa MereridPam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol IncreasinglyDyrys ComplexYmwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodiesDelwedd corff Body imageHeriau bywyd Life challengesAngor AnchorGorbryder AnxietyIsymwybod SubconsciousMyfyrio To meditateSynhwyrau SensesGorlethu To overwhelm02. Aled Hughes - Dr Sara WheelerLeisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles’, ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda’r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio d
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021
26/11/2021 Duración: 16min01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y CoedAderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed WoodpeckerCreaduriaid CreaturesNythu To nestYmddangos To appearRhyfedd iawn Very strangeOnglau AnglesMadfall LizardNeidr SnakeHardd PrettyRhyfeddu To marvel Anarferol Unusual02. Aled Hughes - Hayley ThomasLlawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mama
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021
19/11/2021 Duración: 15min1. Dros Ginio - Pabi Coch Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio…Deillio To deriveCladdu To buryFfrind pennaf Best friend Ysbrydoliaeth InspirationTeyrnged TributeArferiad CustomMabwysiadu To adoptYn ddiweddarach Later onPlant amddifad OrphansDylanwad InfluenceAdnabyddus Aware2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1afYchydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf … Cyfraniad ContributionDelwedd traddodiadol Traditional imageYmddwyn To behave Argraffu To printCymwysedig
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021
12/11/2021 Duración: 18min1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisisClytiau/cewynnau NappiesAml-ddefnydd Multiple useAmgylchedd EnvironmentYmchwil ResearchBuddsoddi To investArbrofi To experimentYmrwymo To commit‘Ta beth Beth bynnagCyflwr ConditionTueddu i hyrwyddo Tends to promote2. Ifan Evans – Gwobr i Edna JonesDyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021
05/11/2021 Duración: 17min1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda GreenMae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...Y Wladfa Welsh settlement in PatagoniaDiwylliannol CulturalHer A challengeDealledig UnderstoodAriannin ArgentinaAddasu To modifyTŷ Gwydr Tŷ haul/conservatoryCyffredin CommonOsgoi To avoidY golygoddion The editorsPenodol Specific2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeafFasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny’n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi…Dyfrio To waterGor-ddyfrio OverwateringCanolbwyntio To concentrateOes tad Ye