Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Tomos Grace
10/09/2021 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
-
Owain Fôn Williams
10/09/2021 Duración: 49minGwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.
-
Paul Sambrook
10/09/2021 Duración: 50minGwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.
-
Maxine Hughes
10/09/2021 Duración: 48minGwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.
-
Sara Yassine
10/09/2021 Duración: 48minFel rhan o Tafwyl, mae Beti George yn holi'r ferch ifanc o Gaerdydd Sara Yassine lle mae hi'n sôn am dyfu fyny fel merch Mwslemaidd Gymraeg yn y brifddinas.
-
Llinos Elin Owen
10/09/2021 Duración: 48minGwestai Beti yw'r baswnydd Llinos Elin Owen, sydd yn Brif Faswnydd i Symffonia'r Ballet Brenhinol yn Birmingham. Mae hi'n sôn am y ddamwain cafodd hi yn 2009 a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Erbyn hyn mae hi'n ceufadu (kayaking) i dîm Paralympaidd Prydain.
-
Jên Angharad
27/05/2021 Duración: 49minY ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.
-
Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
26/05/2021 Duración: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.
-
Rhys Patchell
25/05/2021 Duración: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.
-
Gerallt Pennant
24/05/2021 Duración: 47minUn o leisiau cyfarwydd Radio Cymru, Gerallt Pennant sy'n cadw cwmni i Beti George. Mae'n sôn am farwolaeth ei dad pan oedd e'n fachgen ifanc ac effaith hynny arno, yn ogystal â'i fagwraeth ym Mryncir, ble roedd ei rieni yn "cadw fisitors".
-
Y Parchedig John Gillibrand
24/05/2021 Duración: 50minY gwestai yw'r Parchedig John Gillibrand, ficer yn ardal Pontarddulais sydd wedi bod yn brwydro yn ddiweddar dros gael y brechlyn i'w fab Adam sydd yn awtistig. Mae John yn wreiddiol o ardal Manceinion ac yn sôn am ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen yn astudio Hanes cyn troi ei olygon at Gymru, Y Gymraeg a'r Eglwys.
-
Dr. Meinir Jones
24/05/2021 Duración: 51minBeti George yn sgwrsio gyda'r Dr. Meinir Jones sydd wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gyfrifol am yr holl ysbytai maes ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hi'n trafod ei magwraeth yn ardal Pontardawe, yn ogystal â'i phrofiadau fel meddyg yn Awstralia ac Ynysoedd Arran.
-
Mared Gwyn
24/05/2021 Duración: 50minYn cadw cwmni i Beti George mae'r Ymgynghorydd Cyfathrebu gyda chwmni BCW ym Mrwsel, Mared Gwyn. Mae hi'n sôn am ei chyfnod anodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei hoffter o ddysgu ieithoedd ac o deithio, a sut mae ei gwaith fel ymgynghorydd cyfathrebu wedi newid yn ystod y Cyfnod Clo.
-
Mared Lewis
12/05/2021 Duración: 50minGwestai Beti George yw'r awdures o Sir Fôn, Mared Lewis. Mae'n awdures llyfrau megis Esgid Wag, Y Maison Du Soleil a Mîn y Môr a chawn glywed am ei magwraeth ac am ei chariad amlwg tuag at ysgrifennu.
-
Llinos Rowlands
12/05/2021 Duración: 49minYn cadw cwmni i Beti George mae Llinos Rowlands o Gwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau. Cawn hanes ei phlentyndod yn ardal Arthog, sefydlu'r busnes a sut mae'r busnes wedi ymdopi yn y cyfnod yma.
-
David T C Davies
08/05/2021 Duración: 46minGwestai Beti George yw Aelod Seneddol Mynwy David T C Davies, lle cawn wybod am ei yrfa fel gwleidydd, ac am ei gefndir a'i berthnasau diddorol.
-
Eric Jones
07/05/2021 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gydag Eric Jones, cyfansoddwr y darn corawl "Y Tangnefeddwyr".Mae'n sôn am ei yrfa fel athro a phrifathro, ei gyfnod fel cyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais a hefyd am gydweithio gyda'r band Pink Floyd.
-
10/01/2021
07/05/2021 Duración: 48minPrif Weithredwr Green Finance Institute yn Llundain, Dr Rhian-Mari Thomas yw'r cwmni. Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth hi ymlaen i astudio Ffiseg yng Nghaerfaddon a Dulyn cyn troi i'r byd arian, ac erbyn hyn yn arwain y Chwyldro Gwyrdd ar yr ochr ariannol.
-
Paul Carey Jones
07/05/2021 Duración: 51minY canwr opera Paul Carey Jones yw'r cwmni, ac mae'n sôn am ei blentyndod yng Nghaerdydd, astudio Ffiseg yn Rhydychen a mynd i ddysgu cyn newid gyrfa a throi at ganu Opera. Mae Paul hefyd wedi cyhoeddi blog am ei brofiadau fel canwr yn ystod y cyfnod clo, ac am ei brofiad o gael ei daro gan Covid 19 ym mis Ebrill.