Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Eurig Druce
23/10/2022 Duración: 50minEurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant. Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti. Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dde Lloegr yn wreiddiol, a'i Nain yn dod o Drawsfynydd - roedd ei daid yn gweithio yn y camp gerllaw adeg rhyfel fel milwr a chyfarfod felly.Mae wedi colli rhan fwyaf o’i olwg yn ei llygaid chwith: Pan oedd o rhyw 3-4 oed roedd yn chwarae yn yr ardd efo cane oedd yn dal planhigyn i fyny. Wrth fownsio’r cane, daeth allan o’r ddaear a mynd syth i’w lygaid. Mae’n cofio bod efo’i fam a’i dad, a’r sôn am fynd a fo mewn ambiwlans ac yntau’n dechrau crio. Dim ond 20% o’i olwg sydd ganddo yn ei lygaid, ond gan ei fod wedi dig
-
Joe Healy
16/10/2022 Duración: 50minJoe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dewis ei hoff ganeuon yn cynnwys rhai gan Breichiau Hir a Datblygu.Llun: Dafydd Owen - ffotoNant.
-
Bethan Wyn Jones
09/10/2022 Duración: 51minBotanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd yn y Daily Post Cymraeg ydy gwestai Beti George yr wythnos hon, sef Bethan Wyn Jones. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Cafodd ei magu ym mhentref Talwrn ger Llangefni ac mae Bethan yn dal i fyw yn yr un tŷ. Mae hi'n rhannu hanesion bywyd ac yn trafod galar gyda Beti ac yn credu nad ydym ni'n siarad digon amdano.
-
Rhiannon Evans
02/10/2022 Duración: 49minErs pum degawd, mae Gemwaith Rhiannon wedi bod yn ganolbwynt i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd yn nhref Tregaron. Sŵoleg oedd ei phwnc gradd ac mae ganddi ddoethur hefyd. Hi oedd y cyntaf erioed i wneud PhD yn y Gymraeg a hynny ar bwnc ymbortheg anifeiliaid, ond yn hytrach na dilyn y trywydd yma, fe drodd at fyd busnes ac agor siop grefftau yn Nhregaron. Roedd hi’n un o dri gafodd brynu aur Cymreig, ac mae ei gemwaith Celtaidd yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi dysgu ei hun i wneud y gwaith.
-
Karl Davies
25/09/2022 Duración: 52minWedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma.Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr.Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i’r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru. Ar ôl hynny fe fu’n Brifweithredwr Plaid Cymru am 9 mlynedd; I'r byd addysg aeth o wedyn fel Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon. Aeth nol i swydd weinyddol yn y BBC ac wedyn draw i China i ddysgu saesneg i oedolion.
-
Hefin Wyn
18/09/2022 Duración: 51minAwdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn yw gwestai Beti. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am gerddoriaeth Cymraeg, am Meic Stevens, Waldo a Niclas y Glais ac yn gyn newyddiadurwr gyda'r BBC a HTV. Bu hefyd yn Ohebydd adloniant Y Cymro, ac fe ddisgrifiodd Beti ef fel 'Llysgennad dros Sir Benfro'. Mae'n rhannu straeon ei fywyd ac yn dewis ambell gân.
-
-
-
-
Ifan Jones Evans
07/08/2022 Duración: 48minBeti George sydd yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Ifan Jones Evans
-
-
Nicola Davies
10/07/2022 Duración: 51minCobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor y Sioe Frenhinol. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd Cyngor y Sioe.
-
Meirion Jones
03/07/2022 Duración: 50minYr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones.Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai’n ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim. Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo’i Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo’i Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi’n berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno
-
Catrin Atkins
19/06/2022 Duración: 51minCatrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni. Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith. Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn y sioe Cirque du Soleil yn Vegas, ac yn byw yno gyda’i deulu ers 10 mlynedd. Fe dreuliodd Catrin amser yng Nghanada, ac fe newidiodd hyn ei bywyd. Fe sylweddolodd ei bod yn medru gwneud pethau ar ei phen ei hun. Mae hi bellach yn hapus yn ei chroen, ac yn sôn bod hi wedi cymryd amser i gyrraedd y man yma.
-
Geraint Davies
12/06/2022 Duración: 49minWrth iddo ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda ar ôl 30 mlynedd yn y swydd, mae Beti yn sgwrsio gyda Geraint Davies. Cawn glywed am ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, fferyllydd lleol, a'i rôl flaenllaw yn ei glwb tennis lleol.
-
Ceri Isfryn
05/06/2022 Duración: 51minCeri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri ‘sgrifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda’r North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am
-
Siân Eirian
29/05/2022 Duración: 41min"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C.Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a’r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson.Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.
-
Russell Isaac
22/05/2022 Duración: 50minRussell Isaac yw gwestai Beti George - cyn-newyddiadurwr, sydd bellach yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig ac i gorff yn Asia sydd yn paratoi'r gwledydd rhag y trychinebau sydd yn debygol o ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.
-
Dr Sara Louise Wheeler
15/05/2022 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler.Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Mae ganddi gyflwr genetig prin, sef Syndrom Waardenburg Math 1, sy'n golygu fod ganddi ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea - ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu drama gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef y ‘Y Dywysoges Arian’, sy’n mynd i’r afael â chymeriad sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw drawsffurfio.
-
Catrin Ellis Jones
08/05/2022 Duración: 50minCatrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda’r bobol gynhenid. Mae hi bellach yn gweithio ar brosiectau ynni yn ein moroedd. "36 % o ynni adnewyddol 'da ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban, be sw ni’n licio’i weld ydi Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd sydd i ddod fel bod ni'n creu hi'n bosib i ni ddi-garboneiddio mwy o'n diwydiant ni". " Mi fydda Cymru yn medru gwneud dur di-garbon" meddai Catrin.