Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Aled Roberts
01/12/2020 Duración: 47minCyfle i glywed sgwrs o 2020 gyda'r diweddar Aled Roberts, fu'n Gomisiynydd y Gymraeg. O hanes ei fagwraeth yn Rhosllannerchrugog, i'w waith fel cyfreithiwr cyn cael ei ddewis yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru.
-
Ann Griffith
01/12/2020 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r ymgyrchydd Ann Griffith o Washington DC, un sydd yn wreiddiol o Aberystwyth ond wedi byw mewn mannau fel Lesotho, Sri Lanka, India a Bolifia. Mae hi'n sôn am ei magwraeth Gristnogol, ei phrofiadau yn byw yn y gwahanol wledydd, ei gwaith yn ymgyrchu, a'i barn am yr hyn sydd yn digwydd yn wleidyddol ac yn gymdeithasol yn yr Unol Daleithiau.
-
Tedi Millward
01/12/2020 Duración: 33minCyfle i wrando eto ar sgwrs rhwng Beti George a'r ysgolhaig, Yr Athro Tedi Millward a fu farw yn gynharach eleni. Yn y rhaglen mae e'n sôn am ei fagwraeth yng Nghaerdydd ac am ddylanwad yr athro Elvet Thomas arno i ddysgu'r Gymraeg. Cawn hanes dechreuad Cymdeithas yr Iaith a hefyd ei waith fel tiwtor personol i Dywysog Cymru cyn iddo gael ei Arwisgo nôl yn 1969.
-
Robert Llewellyn Tyler
30/11/2020 Duración: 48minYr hanesydd teithiol Robert Llewellyn Tyler yw gwestai Beti George yr wythnos hon, sydd erbyn hyn yn gweithio ac yn byw yn Abu Dhabi. Mae e'n sôn am ei faes arbenigol, sef y Cymry alltud mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau ag Awstralia, ac hefyd yn sôn am ei brofiadau mewn gwledydd fel Siapan, Saudi Arabia ac Bosnia a Herzegovina.
-
Sian Reese-Williams
29/11/2020 Duración: 46minGwestai Beti yw'r actores, Sian Reese-Williams sy'n portreadu'r Ditectif Cadi John yn y gyfres Craith. Yma mae hi'n son am ei magwraeth yn Aberhonddu, ei gyrfa wrth ymddangos mewn cyfresi fel Emmerdale a'r Gwyll ac yn trafod marwolaeth ei brawd Llŷr llynedd.
-
Patrick Rimes
28/11/2020 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Patrick Rimes. Mae e'n sôn am ei fagwraeth ym Methesda ac am gwrdd â'i dad am y tro cyntaf pan oedd yn dair ar ddeg oed. Cawn wybod am ei sylfeini cerddorol ac am ei ddylanwadau cerddorol ac wrth gwrs hanes sefydlu'r band gwerin Calan. Mae e hefyd yn sôn am helpu ei fam gyda'i busnes gwneud caws dafad yn ystod cyfnod Covid 19.
-
Robin Anderson
27/11/2020 Duración: 45minBeti George yn holi Prif Weithredwr Cwmni Aspen Healthcare, Rob Anderson, am ei fagwraeth a'i addysg yng Nghaerdydd, gan gynnwys mai ei dad oedd un o'r meddygon cyntaf i gyrraedd y trychineb yn Aberfan.Mae Rob hefyd yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysbytai preifat, a sut mae'r ddau yn delio gyda Cofid-19.
-
Aneurin Rhys Hughes
20/11/2020 Duración: 36minYn dilyn marwolaeth Aneurin Rhys Hughes, a oedd yn ei dro yn llysgennad Yr Undeb Ewropeaidd i Norwy a hefyd i Awstralia, ym mis Mawrth, dyma gyfle i ail glywed y sgwrs gafodd e gyda Beti George yn 1991.
-
Catrin Ellis Williams
20/11/2020 Duración: 48minBeti George yn sgwrsio gyda'r meddyg teulu Catrin Elis Williams, fydd yn trafod Covid 19, ei chefndir cerddorol ac hefyd yn son am awtistiaeth ei mab Daniel.
-
Cai Wilshaw
20/11/2020 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw, lle mae'n sôn am ei ddyddiau ym Mhrifysgol Rhydychen, ei waith gyda "The Economist" a "Pink News", a'i gyfnod yn gweithio yn swyddfa Nancy Pelosi yn Washington DC.
-
Gethin Rhys
20/11/2020 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig Gethin Rhys o Gaerdydd sydd yn gweithio gyda mudiad Cytûn. Cawn hanes ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gofalu am Goleg Trefeca ac yn gweinidogaethu ym Mhen-rhys.
-
Owen Evans
20/11/2020 Duración: 49minGwestai Beti'r wythnos hon yw Prif Weithredwr S4C, Owen Evans. Mae'n sôn am ei fagwraeth yn Aberystwyth, ei ysfa i weithio o oedran ifanc ac ar wahân i helyntion S4C cawn hanes ei yrfa faith o fod yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Busnes i werthu cotwm ar draws y byd.
-
22/03/2020
19/11/2020 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r Dr Radha Nair Roberts sydd yn niwro-wyddonydd o Singapore yn wreiddiol, ac erbyn hyn yn dioddef o Sglerosis Ymledol. Yma mae hi'n sôn am ei chefndir diddorol, ei gwaith ymchwil mewn i'r cyflwr niwrolegol Alzheimer's ac am ei chariad tuag at ei theulu a Chymru, ei gwlad fabwysiedig.
-
Rhys Jones
27/04/2020 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Cawn wybod am y "Plynlumon Man", yr ymchwil gan y Brifysgol i mewn i borthladdoedd Cymru, a hefyd, beth yn union yw'r Fro Gymraeg?
-
Sian Stephen
25/04/2020 Duración: 51minYr ymgyrchydd gyda Gwrthryfel Difodiant Sian Stephen sy'n sgwrsio gyda Beti George am ei phryderon ynglyn â newid hinsawdd. Mae hefyd yn sôn am ei chyfnod yn gweithio ym Mrwsel, ac yna yn Guatemala a Colombia.
-
Lleuwen Steffan
05/03/2020 Duración: 49minBeti George yn holi'r gantores Lleuwen Steffan am ei bywyd a'i cherddoriaeth. Mae Lleuwen hefyd yn sôn am y gyfrinach mae hi wedi ei gadw yn dawel ers amser maith ac am ei phenderfyniad i ddychwelyd i Lydaw i fyw.
-
Alis Hawkins
03/03/2020 Duración: 48minBeti George yn sgwrsio'r gyda'r awdures Eingl Gymreig Alis Hawkins, gan drafod ei nofelau a'u cefndir Cymraeg, ei phlentyndod yng Nghwm Cou, ei haddysg yn Aberteifi a Rhydychen a'r broses hir o gael llyfr wedi ei gyhoeddi.
-
Non Williams
28/02/2020 Duración: 45minMae'r gantores Non Williams, yn sgwrsio gyda Beti George am ei iselder, am anhwylder ei gwr Iwan, ac am ddychwelyd i'r llwyfan gyda'r grŵp Eden.
-
Yr Athro Aled Rees
21/02/2020 Duración: 43minMae Beti George yn cael cwmni'r Athro Ddoctor Aled Rees, sy'n Athro Endocrinoleg yn yr Adran Newro Wyddorau a Sefydliad Ymchwil Iechyd Meddwl, Caerdydd. Mae'n rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, ymchwil a gwaith meddygol.